Gorwneud hi ychydig

Gen i duedd i orwneud hi chydig bach pan fo pethau newydd i mi ddod i arfer efo nhw – a dyna oedd hi heddiw, wrth i mi gynefino efo trefn newydd ar gyfer cyhoeddi ein cwrs Sbaeneg – hanner wedi naw arna i yn rhoi’r gliniadur i lawr, sydd ddim yn fodel da!

Ond dwi’n teimlo mod i wedi cael syniad go lew o sut mae pob dim yn gweithio, felly gobeithio bydda i mewn sefyllfa i lawnsio’r cwrs hwnnw erbyn wythnos nesaf…

Dyna bydd heddiw, ag eithrio un post sydyn ar Facebook i weld pa mor hir bydd modd i ni gadw’r pris ar gyfer y cwrs 6 mis i lawr i £100…

Gadael sylw