Clwb Llyfrau f8: Y Melanai

gan Elidir Jones

Fydd hen stejars Fideo Wyth yn cofio am ein Clwb Llyfrau – cyfres o gofnodion yn mynd drwy rhai o glasuron coll ffantasi a ffuglen wyddonol o Gymru.

Boi ffantasi ydw i, yn hytrach na ffug-wydd. Ro’n i wastad wedi fy siomi bod ‘na ddim digon o gleddyfau a hud a bwystfilod yn y Gymraeg. Seren Wen Ar Gefndir Gwyn ydi’r mwya amlwg, ond nid fi ydi’r ffan mwya o’r llyfr yna. Mae Gardag gan Bryan Martin Davies yn cynnwys rhai agweddau ffantasïol, ond nofel am lwynogod yn siarad ydi o wedi’r cwbwl. Ddim cweit yn Lord of the Rings.

Mae Samhain gan Andras Millward yn dangos potensial, dim ond bod y diweddglo wedi ei frysio. Y Ddinas Ar Ymyl Y Byd gan Arwel Vittle yn agosach ati – er bod ‘na elfennau o ffug-wydd a dystopia yn honno hefyd. Igam-Ogam gan Ifan Morgan Jones yn dda, o be dwi’n gofio… a rywsut, dwi erioed wedi rhoi cofnod am yr un yna ar f8.

Sori, Ifan.

Ond yn ddiweddar, dwi wedi dod yn ymwybodol o don newydd o ffantasi Cymraeg wedi ei gyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf. Lliwiau’r Eira Taith yr Aderyn gan Alun Jones, Ar Drywydd Y Duwiau gan Emlyn Gomer Roberts… a phwnc y cofnod yma. Cyfres ffantasi newydd (ies!) i blant a phobol ifanc (ies!) – trioleg Y Melanai gan Bethan Gwanas.

Hyd yn hyn, dwy o’r nofelau sydd wedi eu cyhoeddi, sef Efa a Y Diffeithwch Du, efo’r trydydd, Edenia, allan flwyddyn nesa. Ond mae digon o’r gyfres wedi ei rhyddhau erbyn hyn i ni allu rhoi ryw fath o farn arni yn ei chyfanrwydd. Ac i ddechrau’r heip ar gyfer y llyfr nesa, thgwrs.

Mae’n falch gen i ddweud bod y stori’n cydio o’r cychwyn cynta. ‘Dan ni’n cael ein plymio’n syth i wlad Melania – lle sy’n cael ei reoli gan linach o frenhinesau. Os ydych chi’n ddigon (an)lwcus i gael eich geni’n ferch i’r frenhines, mae’r broses o gymryd ei lle hi’n ddigon syml. Yr oll sy’n rhaid i chi wneud ydi lladd eich mam ar eich penblwydd yn 16 oed.

Hawdd.

Mae’r gyfres yn dilyn Efa – merch hynaf y frenhines bresennol, sy’n 15 oed, ac yn gorfod gwynebu ambell i amheuaeth am ei thynged. A phwy all feio hi?

Gyda’i chyfeillion – y cogyddion, milwyr a thiwtoriaid sydd wedi ei harwain ar hyd ei bywyd – mae hi’n rhoi cynllun at ei gilydd fydd yn achub ei mam, newid y drefn… a herio sefydliad Melania, unwaith ac am byth. Ac mae’r penderfyniad yna’n un fydd yn eu harwain ar daith epig, i gorneli tywyll o’r byd does neb yn mentro iddyn nhw…

Mordor_by_dariocoelho-d3kj7bp

‘Na ni. Gei di ddefnyddio hwnna os tisio, Bethan.

Mae’r syniad canolog tu ôl i’r gyfres – am yr un weithred farbaraidd ‘ma sy’n gosod seiliau teyrnas gyfan – yn un cwbwl wreiddiol. Tra’n darllen y prolog a’r penodau cyntaf, ro’n i wedi ‘nghyfareddu, ac yn edrych ymlaen at ddarllen cyfres ffantasi yn y Gymraeg sy’n gwneud pethau newydd yn hytrach na dilyn y drefn.

Ar y cyfan, mae’r cyffro cychwynnol yna’n parhau, ond rhaid cofio mai cyfres i bobol ifanc ydi Y Melanai. Mae ‘na rai nodweddion ystrydebol o’r stori sy’n ychydig llai gwreiddiol, fel berthynas “will-they-or-won’t-they” rhwng dau o’r prif gymeriadau, er enghraifft. Ond mae hynny’n iawn. Dyna gonfensiynau’r genre. Fel llyfr i oedolion ifanc, mae’n gweithio’n berffaith, ond nid fel cystadleuydd i A Song Of Ice And Fire neu LOTR.

Wedi dweud hynny, mae ‘na ddarnau o’r gyfres – yn enwedig yn yr ail gyfrol – sy’n rhyfeddol o waedlyd. Nid bod hyn yn wendid chwaith, o bell ffordd. Mae The Hunger Games yn amlwg wedi cael cryn ddylanwad ar y genre erbyn hyn, sydd ddim yn ddrwg o beth. Dim ond meddwl fyswn i’n tynnu sylw at y peth, rhag ofn eich bod chi’n bwriadu cyflwyno’r gyfres i ddarllenwyr ifanc iawn.

Un peth arall i’w nodi ydi bod y gyfres, yn fy marn i, yn teimlo fel un nofel fawr wedi ei gwahanu i sawl rhan yn hytrach na straeon unigol sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain. Mae’r ddau lyfr yn teimlo fel Act 1 & 2 o’r stori. Eto, mae hyn i’w weld mewn cymaint o weithiau ffantasi, gan gynnwys campwaith Tolkien, ac yn reswm pan dwi’n tueddu i ddisgwyl i gyfres ddod i ben cyn darllen yr holl beth. Diolch byth, dydi’r gyfrol ola ddim yn bell i ffwrdd.

Yn gyffredinol, wnes i fwynhau fy nhaith trwy diroedd Melanai a’r Diffeithwch Du, er ‘mod i tua dwywaith oed y gynulleidfa sydd fwya’ tebyg o gael eu denu at y gyfres. Mae o mor, mor dda cael cyfres ffantasi wedi ei hysgrifennu gan awdures sydd yn amlwg yn ffan o’r genre. Ydi, mae hi’n crybwyll hynny cyn i’r stori gychwyn…

DSC_0024

… ond mae’n amlwg yn yr ysgrifennu hefyd.

Er… a sbwylwyr bach, bach fan hyn – dwi ddim cweit yn deall pam bod byd y Melanai ddim yn secondary world, heb unrhyw gysylltiad i’n byd ni, ond yn hytrach yn fersiwn o’r Ddaear yn y dyfodol pell, wedi i ryw drychineb fawr ddinistrio ein technoleg a chwalu ein bywydau modern. Ella y cawn ni fwy am hynny yn y llyfr nesa. Ond dyna ni. Chwaeth personol eto.

Mae’n gyfres sy’n gwneud i chi obeithio am fwy. I obeithio y bydd Bethan Gwanas, un dydd, yn llenwi’r llefydd blanc ar y map ar gychwyn y gyfres.

(Achos mae’n rhaid i bob nofel ffantasi gael map. Ffaith.)

Falle y bydd hi’n defnyddio Y Melanai fel sbringford i grwydro mwy o’r byd ffantasi mae hi wedi ei greu. Ella i ddarllenwyr hŷn? Amser a ddengys.

Am y tro, alla i ddim meddwl am bresantau Dolig gwell i Gymro neu Gymraes ifanc sy’n dotio ar ffantasi. Ac i’r oedolion yn ein mysg… wel, ella bod y gyfres yn ddigon i’n sbarduno ni i sgwennu rwbath tebyg ein hun.

Dwi ‘di dweud hynny ers tro byd. Ond dwi’n siriys tro ‘ma. Gaddo.

Leave a comment