Home > Uncategorized > BCB yn ehangu i greu mwy o’i nwydd – Fire Dragon Fuel

Roedd yn bleser ymweld â BCB International yn Llangennech heddiw a chael cwrdd â’r entrepreneur rhagorol, MD Andrew Howell.

Roeddwn yno i ddathlu Guto Bebb AS, Gweinidog Caffael Y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn agor llinell gynhyrchu newydd Fire Dragon fuel yn swyddogol. Mae syniadau rhagorol Andrew a’i ddyfal barhad i lwyddo yn enghraifft o’r hyn sydd eu hangen ar ein heconomi.

Roeddwn hefyd yn falch i glywed y Gweinidog yn cydnabod gwerth swyddi lleol. Dyma’n gobeithio y bydd yn gwerthfawrogi’r gwerth hwn i economi’r DU wrth wneud penderfyniadau caffael eraill.