Ymunwch â’r Parêd

Parêd Llusernau Enfawr i oleuo Aberteifi!
Ymunwch â Pharêd eleni ar Ragfyr 7ed 2018 am 7yh

Mae Theatr Byd Bychan yn falch tu hwnt i allu cyhoeddi y bydd Parêd Llusernau Enfawr creadigol a llawn dychymyg unwaith eto eleni ar Rhagfyr 7 am 7yh, diolch i grant gan Gronfa’r Loteri Fawr. Mae pob Parêd yn y gorffennol wedi ennyn llawer o gyffro ac fe ddywedodd adroddiadau yn y wasg

Gŵyl llusern y dref yn llwyddiant goleuedig

Bydded goleuni, ac roedd y dorf niferus wedi dotio

Eleni, yn y drydedd flwyddyn, mae’r dathliad gaeafol yn argoeli i fod yn fwy fyth ac yn fwy disglair nag erioed.

Mae gwahoddiad i gymuned Aberteifi ddod i Weithdy Gwneud Llusern yn y cyfnod cyn y digwyddiad. Mae manylion pellach yma, ac ARCHEBWCH eich lle, os gwelwch yn dda.

Mae Theatr Byd Bychan yn gweithio gyda Blwyddyn y Môr Croeso Cymru ar gyfer trydydd parêd blynyddol y dre. Mae Blwyddyn y Môr wedi ysgogi cannoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gyfrannu at yr economi a thanlinellu cyflawniad mudiadau amgylcheddol megis Cadwch Gymru’n Daclus, Moroedd Glân Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a llawer mwy.

Gallwch ddisgwyl gweld cannoedd o lusernau cychod bach yn llifo ochr yn ochr â llusernau siâp pysgod. Bydd y Parêd yn symud ar hyd Stryd Fawr Abertefi, i lawr Stryd Y Santes Fair, ar hyd Y Strand ac yn gorffen yng Nghastell Aberteifi. Yn arwain y cyfan ar flaen yr orymdaith bydd llusernau angenfilod môr enfawr wedi eu creu gan artistiaid Theatr Byd Bychan. Bydd cerddoriaeth a hwyl ar hyd y daith.

Bydd Theatr Byd Bychan yn dechrau’r Parêd yn Pendre, gan adael am 7yh a gorffen yng Nghastell Aberteifi. Gall gwylwyr ymuno â ni ar y Stryd Fawr, lle bydd nifer o siopau ar agor yn hwyr ar gyfer siopwyr Nadolig, neu ar dir y Castell lle bydd bwyd bendigedig yn cael ei baratoi gan Kitchen 1176, cynhyrchwyr lleol a diddanwch.

Bydd anghenfil môr chwedlonol Theatr Byd Bychan, sef Cragen, yn ymddangos am y tro olaf eleni ger Y Strand. Y pyped enfawr yma, sy’n 20m o hyd, oedd yn arwain Ymgyrch Arfordir Byw Croeso Cymru yr haf hwn, ac fe deithiodd Gymru gyda’r neges #cleanseas.  Gallwch ddod o hyd i fwy amdani ac am ei hymddangosiad – Cragen yn Aberteifi.

Edrychwch am y gogwyr tân ac eleni mae Masnachwyr Tref Aberteifi hefyd wedi ariannu sioe tân gwyllt gwych i orffen y digwyddiad hwyliog hwn.

Mae llusernau yn cael eu gwneud o bapur tusw a helygen a dyfwyd yn gynaliadwy. Nid llusernau i’w hala i’r awyr yw nhw; mae nhw wedi eu creu gan y gymuned i roi pleser yn y cartref ar ôl y Parêd.

Cysylltwch â Theatr Byd Bychan am fwy o wybodaeth ar 01239 615952 smallworld.org.uk

Gyda diolch i Loteri Fawr Cymru am noddi Parêd Llusernau Enfawr eleni, a gyflwynir gan Theatr Byd Bychan a Phartneriaeth Canol Tref Aberteifi.